Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Drafnidiaeth Gymunedol

Dydd  Mawrth 23 Mehefin 2015

Tŷ Hywel, Ystafell Fwyta 2

Yn bresennol: Eluned Parrott AC (Cadeirydd), Paul Harding (Staff Cymorth yr Aelodau), Sian Summers-Rees (Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru), Rhian Higgins (Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru), Ceri Cryer (Age Cymru), Craig Lawson (Staff Cymorth Suzy Davies AC), Rod Bowen (Dolen Teifi), Sara Leyland Jones (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys [PAVO])

Ymddiheuriadau: Huw Lewis AC, Altaff Hussain AC, Bethan Jenkins AC, Mohammad Asghar AC, Hattie Woakes (Fforwm Trafnidiaeth Gogledd Sir Benfro).

1.      Croeso, cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

Agorodd Eluned Parrot y cyfarfod drwy ofyn i'r aelodau gyflwyno'u hunain yn eu tro, a diolchodd iddynt am ddod.

Cafwyd yr ymddiheuriadau a nodir uchod.

2.      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2014

Cymeradwywyd y cofnodion.

3.      Materion yn codi

Yn dilyn y cyfarfod diwethaf cafodd Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru wybodaeth am eu cyllid a’r Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Bws (BSSG) a, chan hynny, nid oedd angen i EP ofyn cwestiwn yn y siambr/ysgrifennu at y Gweinidog. Dywedodd  Siân Summers-Rees (SSR), fodd bynnag, fod ansicrwydd o hyd ynglŷn â’r BSSG y flwyddyn nesaf a bu oedi gweinyddol eleni ee ni chafodd Swyddogoin Trafnidiaeth Gymunedol wybod a fyddent yn cael y grant tan ddiwedd y chwarter cyntaf. Nododd SSR hefyd fod anghysondeb yn y modd roedd awdurdodau lleol yn dehongli pwy oedd yn gymwys i gael BSSG, y prosesau cysylltiedig a’r taliadau ac, o ganlyniad, roedd sefyllfa’r gwahanol gynlluniau’n amrywio’n arw.

CAM I’W GYMRYD - Eluned Parrott AC i ofyn cwestiwn am gyllid BSSG ar gyfer 2016/2017 BSSG.

 

4.      Ymgysylltu â Chynlluniau Trafnidiaeth Gymunedol Lleol                                           

Yn y cyfarfod diwethaf, cytunwyd y byddai Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru yn canolbwyntio ar ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad dros fisoedd yr haf drwy hwyluso cyfleoedd iddynt gwrdd â darparwyr Trafnidiaeth Gymunedol yn eu hetholaethau.

Nododd SSR fod Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru wedi cysylltu ag Aelodau’r Cynulliad yn eu gwahodd i ymweld â'u cynlluniau lleol a chael gwell dealltwriaeth o'r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn y cymunedau. Siomedig fu’n ymateb hyd yma. Awgrymodd EP y dylai cynlluniau trafnidiaeth gymunedol gysylltu â'u Haelod Cynulliad yn uniongyrchol yn hytrach na mynd drwy Gymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru.

Cam i’w gymryd - Cytunwyd y dylai Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru annog cynlluniau unigol i gysylltu â'u Haelodau yn eu gwahodd yn uniongyrchol i ymweld â'r cynllun perthnasol yn eu hetholaeth.

5.      Rhaglen o gyfarfodydd agored

 " Beth yw dyfodol Trafnidiaeth Gymunedol? "

 Rhoddodd SSR gyflwyniad ar ddyfodol Drafnidiaeth Gymunedol. Nododd y  cyfleoedd a’r heriau y byddai’r cynlluniau’n eu hwynebu yn y dyfodol a chyfrannodd Rod Bowen (RB) (Swyddog Datblygu Dolen Teifi) a Sarah Leyland-Jones (SLJ) (Swyddog Datblygu Cludiant Cymunedol PAVO) at y trafodaethau.

Rhoddodd RB enghreifftiau o’r modd roedd Dolen Teifi wedi ceisio goresgyn problemau trwyddedu D1 i yrwyr Trafnidiaeth Gymunedol drwy brynu bysiau mini ysgafn newydd. Soniodd hefyd am lwyddiant y rhaglen recriwtio gwirfoddolwyr a fabwysiadwyd fel rhan o brosiect 'Trafnidiaeth i Bawb' a ariennir drwy raglen Pobl a Lleoedd y Loteri Fawr. Llwyddodd y prosiect i recriwtio gwirfoddolwyr drwy ymgysylltu â’r trydydd sector ehangach sydd hefyd yn gallu elwa ar y cynllun trafnidiaeth. Mae nifer o gynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn ei chael yn anodd recriwtio gwirfoddolwyr o hyd a gellid ystyried ehangu’r rhaglen hon fel enghraifft o arfer gorau.

Soniodd SLJ sut roedd PAVO wedi llwyddo i helpu sefydliadau trafnidiaeth gymunedol yng Ngogledd Cymru i ddarparu gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys ar ran Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae'r prosiect wedi lleddfu'r pwysau presennol ar y Gwasanaethau Ambiwlans ac wedi bod o fudd i gymunedau.  Nododd SLJ fod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma ac, unwaith eto, roedd lle i’w ddatblygu ymhellach ar hyd a lled Cymru.

Yn ystod y drafodaeth agored, nodwyd bod disgwyliadau afrealistig y byddai cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn gallu darparu gwasanaethau bws y profwyd eisoes nad oedd modd i  gwmnïau masnachol eu darparu heb gymorthdaliadau ychwanegol. Nodwyd hefyd fod y diffyg cymhorthdal ​​ar gyfer 'milltiroedd marw' yn broblem benodol i gynlluniau trafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig. Gofynnodd EP a oedd y cynlluniau’n barod i ymgymryd â’r gwaith o gludo cleifion mewn achosion nad oeddent yn rhai brys ac a oedd pryder y byddai hyn yn eu hatal rhag darparu eu gwasanaethau traddodiadol. Dywedodd SLJ a RB y gallai rhai cynlluniau trafnidiaeth gymunedol fod ag ymddiriedolwyr a oedd yn amharod i gynnig gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad oeddent yn rhai brys ac, o'u safbwynt nhw, teimlent ei bod yn bwysig i sefydliadau ymgymryd â gwaith a fyddai'n cryfhau eu cynaliadwyedd ariannol yn y tymor hwy. Trafodwyd hefyd yr ad-daliadau/cymorthdaliadau yr oedd eu hangen ar drafnidiaeth gymunedol a'r pryder bod cynaliadwyedd tymor hwy yn mynd yn anoddach o hyd.

Cytunwyd y byddai'r cyfarfod nesaf yn canolbwyntio ar 'drafnidiaeth gymunedol a’i rôl ym maes cludiant iechyd’

6.      Unrhyw fater arall:

Cyhoeddwyd Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drafft ar gyfer Cymru yn gynharach eleni a daeth y broses ymgynghori i ben ym mis Mawrth. Roedd SSR braidd yn siomedig nad oedd trafnidiaeth gymunedol a hygyrchedd trafnidiaeth yn cael mwy o sylw yn y cynllun drafft. Er y byddai'r sector trafnidiaeth gymunedol yn croesawu rhagor o gynlluniau rhannu ceir, nodwyd nad trafnidiaeth gymunedol oedd y rhain yn yr ystyr traddodiadol; byddai'r sector wedi bod yn falch pe bai’r cynllun yn cynnwys cynlluniau fel cynlluniau ceir cymunedol.

Dyddiad y cyfarfod nesaf:

Dyddiad i'w gadarnhau.